Adeiladu ar Lwyddiant

Os ydych yn Arweinydd uchelgeisiol ac yn flaengar, efallai mai Cyngor Wrecsam yw’r lle delfrydol i chi!

Ynghylch y rôl

Prif Weithredwr.

Graddfa gyflog £139,044 – £158,433 (Polisi Adleoli’n berthnasol)

Y Prif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig yw’r swydd allweddol o fewn ein Cyngor. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu’r arweinyddiaeth a’r weledigaeth i sicrhau bod y cyngor yn cael ei strwythuro, ei reoli a’i arfogi’n effeithiol, gan ein galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau a’n hamcanion.

Amdanom ni

Os ydych chi’n arweinydd uchelgeisiol, blaengar gydag awch i greu newid go iawn sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i bobl, cymunedau a busnesau lleol, gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod y lle perffaith i chi.

Rydym yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal ac rydym yn anelu arloesedd a rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn.

Am Wrecsam

Wrecsam – Lle i Fyw a Gweithio

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi’i lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn falch o’i threftadaeth Gymreig a’i hunaniaeth ddiwylliannol ac yn ei dathlu.

Cysylltwch â ni

I ddarganfod mwy am y rôl, y broses neu’r asesiad ffoniwch Andrea Stevenson i gael sgwrs anffurfiol.