Swydd 1: Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys rôl Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) yn wag Mawrth 2020.
Swydd 2: Prif Swyddog Addysg ag Ymyrraeth Gynnar (gan gynnwys rôl Prif Swyddog Addysg Statudol) yn wag Awst 2020
Mae’r rolau Prif Swyddogion yma yn allweddol ar ein tim arwinniol strategol. Fel Prif Swyddog byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad a gweledigaeth i sicrhau bod eich gwasanaethau wedi’i strwythuro a’i reoli’n effeithiol a bod yr adnoddau cywir ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau a’n hamcanion.
Byddwch yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi’i gael hyd yn hyn, drwy arwain y gwasanaethau ar eu taith tuag at eu gwelliant, a bydd eich swydd chi yn gwneud y siwrne mor llyfn â phosib. Mae gennym eisoes dîm sefydledig o uwch swyddogion, pob un yn cael ei gyflogi oherwydd eu ffocws a’u hymroddiad i Wrecsam.
Bydd gennych y gallu i wneud penderfyniadau heriol a datrys problemau wrth iddynt godi. Mae’r rôl yn gofyn am y gallu i weithredu mewn hinsawdd wleidyddol, felly mi fydd y sgiliau a’r profiad i ddeall y cyd-destun gwleidyddol Cymreig gennych, yn cynnwys materion ar ddatganoli a materion cyfreithiol, ynghyd â gwerthfawrogi pwysigrwydd diwylliant Cymru.
Byddwch yn fodel rôl sy’n dangos y gwerthoedd a’r ymddygiad angenrheidiol ac yn arwain drwy esiampl, rydym eisiau llysgennad sy’n teimlo’n angerddol am gryfhau ein gwasanaethau er budd plant a phobl ifanc yn Wrecsam ac yn cofleidio diwylliant a threftadaeth yr ardal a Chymru fel ei gilydd. Ni fydd gennych ofn gwneud pethau’n wahanol a herio’r ffordd bresennol o weithio, ac ni fydd gennym ni ofn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i gyflawni ein hamcanion.
Llythyr - Prif Swyddog Addysg ag Ymyrraeth Gynnar
Llythyr - Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol
