Wrecsam – Lle i Fyw a Gweithio
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi’i lleoli yng Nogledd Ddwyrain Cymru, yn falch iawn o’i threftadaeth Gymraeg ac yn dathlu ei hunaniaeth ddiwylliannol. Ei chanolbwynt yw tref Wrecsam – tref fwyaf Gogledd Cymru – sy’n gorwedd yn Nyffryn Dyfrdwy rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadoedd Swydd Gaer. Mae’n lleoliad sydd wir yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.
Yr hen a’r newydd
Mae tref Wrecsam wedi bod yn ganolfan farchnad ers y cyfnod canoloesol, yn bell cyn iddi ddod i’r amlwg yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif yn sgil y Chwyldro Diwydiannol.
Mae Wrecsam wedi llwyddo i gadw awyrgylch tref hanesyddol a chael budd hefyd o ganolfan siopa fodern ddi-draffig, a chanolfan o fri i’r celfyddydau, diwylliant a marchnadoedd, Tŷ Pawb a agorodd ym mis Ebrill 2018. Mae’r ganolfan hon yn ychwanegu at ein harlwy dreftadaeth gan gynnwys amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol. Rydym yn falch o’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO – Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte – sy’n denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd bob blwyddyn.
Yn ogystal â dau eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thri o saith rhyfeddod Cymru, mae gan Wrecsam enw da hefyd am gynnal digwyddiadau ar raddfa fawr, o gemau Cwpan y Byd Cynghrair Rygbi i gyngherddau pop awyr agored. Mae gan Wrecsam Brifysgol fawr, Amgueddfa a chyfleusterau chwaraeon gwych – mae’n lle sy’n edrych i’r dyfodol.
Dinas, tref a chefn gwlad
Gall Wrecsam ddarparu’r lleoliad perffaith i ba bynnag ffordd o fyw sy’n apelio atoch.
Ar y naill llaw, mae digon o gefn gwlad i’w archwilio. Mae’r Fwrdeistref Sirol yn gartref i Warchodfa Natur Genedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 parc gwledig. Mae tirlun Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddeniadol iawn ac rydych chi o fewn tua ugain munud i heddwch a thawelwch bryniau Cymru. Ar y llaw arall, mewn llai nag awr, gallwch gyrraedd dwy o ddinasoedd mwyaf Ewrop – Manceinion a Lerpwl – gyda’u cymysgedd rhyngwladol o ddiwylliant, bywyd nos, siopau a chyfleusterau. Mae Wrecsam yn ganolfan fasnachol fywiog gydag un o Stadau Diwydiannol mwyaf Ewrop yn gartref i enwau mawr fel JCB, Kelloggs, Hoya a Charchar y Berwyn. Rydym yn chwarae rhan allweddol yng Nghynghrair Merswy / Dyfrdwy ac wedi ein lleoli’n dda i elwa o botensial HS2 a’r Northern Powerhouse am flynyddoedd i ddod. Gyda mynediad hwylus i’r rhwydwaith traffyrdd, nid ydym yn bell o sawl maes awyr a phorthladd, felly mae teithio i rannau eraill o’r DU neu’n bellach yn hawdd hefyd.