Ynglŷn â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Os ydych yn Arweinydd uchelgeisiol ac yn flaengar, efallai mai Cyngor Wrecsam yw’r lle delfrydol i chi. Fel cyngor sy’n perfformio ar lefel uchel ac un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, rydym yn anelu at arloesi a rhagori ym mhopeth a wnawn.
Gyda chreadigrwydd a gwelliant parhaus wrth galon popeth; mae ein hathroniaeth wedi’i seilio ar sicrhau bod Wrecsam a’i phobl yn cael eu cefnogi, ac yn gallu cyflawni eu potensial, llwyddo a phrofi safon uchel o les, ac mae’r un peth yn wir am ein gweithlu hefyd.
Rydym yn realistig ynglŷn â’r hyn y gellir ei wneud a’r hyn na ellir ei wneud yn ystod yr adegau heriol yma o ran cyllid. Rydym yn ymwybodol o’r risgiau a’r cyfleoedd o ran y dewisiadau a wnawn. Rydym yn annog syniadau newydd, ac yn darparu amgylchedd lle gall pobl fod yn greadigol. Ar y cyfan, mae’n lle gwych i weithio ac rydym ni gyd yn cael ein harwain gan Werthoedd a Chynllun y Cyngor.
Gallwn gynnig i chi:
- Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol
- Gwyliau blynyddol hael
- Gweithio hyblyg
- Gwobrau a gostyngiadau gweithwyr
- Bydd ein polisi adleoli yn berthnasol i’r ddwy swydd