Ynghylch y rôl

Prif Weithredwr

Graddfa gyflog £139,044 – £158,433 (Polisi Adleoli’n berthnasol)

Y Prif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig yw’r swydd allweddol o fewn ein Cyngor.

Byddwch yn gyfrifol am ddarparu’r arweinyddiaeth a’r weledigaeth i sicrhau bod y cyngor yn cael ei strwythuro, ei reoli a’i arfogi’n effeithiol, gan ein galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau a’n hamcanion.

Byddwch yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma, trwy arwain y Cyngor ar ei daith wella tra’n sicrhau sefydlogrwydd gwasanaethau ac yn gyrru perfformiad.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan ein tîm sefydledig o uwch swyddogion – pob un wedi’i gyflogi oherwydd ei frwdfrydedd, ei ffocws a’i ymrwymiad i Wrecsam.

Byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau anodd a datrys materion wrth iddynt godi, a byddwch yn fedrus wrth adeiladu perthnasoedd a gweithio gydag aelodau etholedig a swyddogion gwasanaeth cyhoeddus eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Mae’r rôl hon yn gofyn am y gallu i weithredu mewn hinsawdd wleidyddol, felly bydd angen greddfau gwleidyddol wedi’u tiwnio’n fanwl. Bydd angen y sgiliau a’r profiad arnoch i ddeall cyd-destun gwleidyddol Cymru – gan gynnwys materion datganoledig a chyfreithiol – a phwysigrwydd diwylliant Cymru.

Rydym yn chwilio am fodel rôl sy’n arddel y gwerthoedd a’r ymddygiadau gofynnol hyn ac sy’n arwain trwy esiampl.

Rydym eisiau llysgennad a fydd yn angerddol am Wrecsam ac yn cofleidio diwylliant a threftadaeth y fwrdeistref sirol a Chymru gyfan.

Ni fyddwch yn ofni gwneud pethau’n wahanol a herio’r ffordd yr ydym yn gweithio. Ac ni fyddwn ninnau’n ofni rhoi’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch i gyflawni ein nodau cyffredin.

Cyng. Mark Pritchard

Arweinydd

Annwyl Ymgeisydd

Diolch am eich diddordeb yn y swydd wag Prif Weithredwr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae hon yn rôl hynod gyffrous ac mae hwn wir yn gyfnod rhyfeddol i ni yn Wrecsam.

Yn ogystal â goruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd i’n cymunedau lleol a’n trigolion, byddwch hefyd yn arwain y cyngor trwy newid trawsnewidiol a nifer o brosiectau effaith uchel.

Mae dinas Wrecsam yn lle cyffrous iawn i fod, gyda’n henwogrwydd newydd yn denu ymwelwyr, busnesau newydd a buddsoddiad. Mae cynllun adfywio Porth Wrecsam, sy’n canolbwyntio ar orsaf drenau Wrecsam Cyffredinol ger stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn adlewyrchiad o’n huchelgais i fanteisio ar y cyfleoedd hynny a chreu dinas fodern, ddeniadol, fywiog sy’n canolbwyntio ar bobl. Bydd eisteddle newydd y Kop yn y stadiwm pêl-droed yn eiconig a byd-enwog. Bydd y datblygiad yn yr orsaf gyda’r ganolfan drafnidiaeth aml-foddol a swyddfeydd newydd yr un mor drawiadol a chroesawgar i ymwelwyr.

Rydym yn falch o fod yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan gefnogi’r Cais Dinas Diwylliant ar gyfer 2029, yn ogystal â helpu i ddatblygu prosiectau seilwaith allweddol yng nghanol y ddinas a fydd yn canolbwyntio ar ein heconomi.

Mae Wrecsam yn gartref i safle Treftadaeth y Byd UNESCO, mae ganddi orffennol diwydiannol cyfoethog, gan gynnwys fel canolfan mwyngloddio glo a phlwm bwysig, a hanes a threftadaeth falch yn gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog, sy’n rhan annatod o’n hanes a’n diwylliant.

Dyma flas ar Wrecsam a’r cyfleoedd cyffrous sydd gennym i’w datblygu, gan weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni dyfodol economaidd cynaliadwy. Mae partneriaethau a chydweithredu yn allweddol i ni yn Wrecsam ac rydym am i’n Prif Weithredwr newydd ddangos esiampl yn y maes hwn.

Mae’r rôl yn cynnwys gweithio’n agos gydag aelodau etholedig a bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth ac empathi mewn perthynas â chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor a rôl yr aelodau wrth wneud penderfyniadau.

Mae gennym uwch dîm arwain cryf a fydd yn eich cefnogi yr holl ffordd. Mae pob aelod o’r tîm yn arbenigwr yn ei faes ac yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau i bobl leol a helpu Wrecsam i gyflawni ei llawn botensial. Fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig byddwch yn cael cyfle i arwain gweithlu sy’n greadigol, gweithgar ac ymroddedig.

Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n dymuno cyflwyno cais ar ôl darllen y pecyn cais, ac os hoffech siarad â mi am y rôl, cysylltwch â mi ar 01978 292581.

Y Cynghorydd Mark Pritchard
Arweinydd y Cyngor